Rhif y ddeiseb: P-06-1319

 

Teitl y ddeiseb: Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya

 

Geiriad y ddeiseb: Er mwyn ei gwneud yn ddiogel i breswylwyr Penperllenni groesi’r A4042 yn Goytre Arms dylid rhoi croesfan i gerddwyr ac ehangu’r terfyn cyflymder 20mya sydd eisoes yn bodoli yn y pentref i gynnwys y rhan hon o’r A4042.

 

 


1.        Cefndir

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd a'r awdurdod traffig sy'n gyfrifol am rwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ffyrdd lleol. Mae'r A4042 yn rhan o rwydwaith cefnffyrdd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda dau asiant cefnffyrdd, Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), i reoli, cynnal a gwella'r rhwydwaith. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am osod terfynau cyflymder ar gefnffyrdd yn unol â'i chanllawiau cyfredol. Cawsant eu cyflwyno yn 2009 ac maent yn nodi y “gellir defnyddio terfynau cyflymder 20mya ar gefnffyrdd o dan amgylchiadau eithriadol, yn gyffredinol dros hydoedd byr ac am gyfnodau cyfyngedig yn ystod y dydd”.

Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ddiweddaru ei chanllawiau ar osod terfynau cyflymder cyn i’r ddeddfwriaeth i leihau'r terfyn diofyn ar ffyrdd cyfyngedig i 20mya ddod i rym.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mewn llythyr at y Cadeirydd dyddiedig 27 Ionawr 2023, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn nodi bod terfynau cyflymder ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd yn unol â'r canllawiau presennol (gweler uchod).

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i leihau'r terfyn ar y darn o ffordd dan sylw. Ond mae'r Dirprwy Weinidog yn awgrymu y gallai hyn arwain at newid yn y meini prawf ar gyfer terfynau cyflymder is yng Nghymru gan fod y canllawiau'n cael eu diweddaru. Mae'n dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r terfynau cyflymder ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd yn dilyn cyhoeddi'r canllawiau sydd wedi'u diweddaru.

O ran galwad y deisebydd am groesfan i gerddwyr, mae'r llythyr yn nodi bod asesiad eisoes wedi dechrau a bod y trothwy ar gyfer rhoi croesfan yn ei le wedi'i gyrraedd.

Yn 2022, fel yr adroddwyd yn y cyfryngau, awgrymodd Llywodraeth Cymru nad oedd cyllid ar gael, er bod y meini prawf wedi eu cyrraedd. Dywed llythyr y Dirprwy Weinidog bod y cyllid ar gyfer y prosiect hwn bellach wedi'i sicrhau ac y byddai cam 2 yr asesiad yn digwydd yn y flwyddyn ariannol hon.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.